
Llywio Nos
Gyda llai o olau dydd ar gael i gwblhau eich teithiau cerdded, mae'r sgil o allu llywio mewn tywyllwch yn bwysig. Bydd ein cwrs llywio NOS yn un sylfaenol am pedair awr ac yn eich cyflwyno i llywio nos ac yn rhoi hyder i chi gerdded yn ystod tywyllwch dros tir agored.
Llywio Nos
Yn addas i
- Y rhai sy'n dymuno cael profiad ychwanegol o llywio'n nos
- Y rhai sy'n cychwyn ar y cymhwyster Arweinydd Mynydd
- Pobl nad oes ganddynt unrhyw brofiad o llywio yn y tywyllwch
Cyrsiau yn cynnwys
- Rhestr offer a cyngor cyfeillgar
- Offer diogelwch grŵp
- Tystysgrif Presenoldeb
- Hyfforddwr cymwys, yswiriedig a phrofiadol
Crynodeb o’r cwrs
Anhawster
Y ffitrwydd sy’n ofynnol
Hyd y cwrs
1 diwrnod
Cost y cwrs
£35
Cymhareb cwrs
1:6
Yr amser sy’n ofynnol
4 awr
Argaeledd
Gofynnwch os gwelwch yn dda
Dyddiadau
Dyddiad | Cwrs | Pris |
Disgrifiad o’r cwrs
Gyda llai o olau dydd ar gael i gwblhau eich teithiau cerdded, mae'r sgil o allu llywio mewn tywyllwch yn bwysig. Bydd ein cwrs llywio NOS yn un sylfaenol am pedair awr ac yn eich cyflwyno i llywio nos ac yn rhoi hyder i chi gerdded yn ystod tywyllwch dros tir agored. Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau naill ai ein cwrs llywio, ein cwrs sgiliau bryn neu fynydd neu rydych chi'n gallu defnyddio map a chwmpawd i gymryd cyfeirnod, mesur pellter a chynllunio taith syml. Anfonir y manylion llawn ar ôl i chi archebu. Uchafswm maint y grŵp fydd 6. Byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif am ddod!
Mae hefyd yn berffaith i'r rhai sy'n ystyried cychwyn ar gymhwyster Arweinydd Mynydd ac sy'n dymuno ennill mwy o brofiad a hyder i lywio yn y tywyllwch.
Bydd y noson yn hamddenol iawn heb unrhyw bwysau i gael pethau'n iawn ac mae'n gyfle delfrydol i roi cynnig ar lywio nos o dan arweiniad.
Nodyn: Mae ein holl staff yn gymwys, wedi'u hyswirio, yn brofiadol ac yn meddu ar gymwysterau cymorth cyntaf cyfredol.
Amserlen y cwrs
- Cyfarfod am 6.30yh
- Bydd y man cyfarfod o amgylch Bethesda neu Llanberis
- Taith i dir / bryniau lleol i ymarfer sgiliau llywio
- Dychwelyd yn ôl i'r man cyfarfod erbyn 11yh fan bellaf.
- Anfonir y manylion llawn ar ol archebu