Sgiliau Mynydd Hydref (19/10/2020)

Sgiliau Mynydd Hydref

Cafodd Dylan a Trystan benwythnos difyr ar ein cwrs sgiliau mynydd. Aethon ni i'r Carneddau ddydd Sadwrn i gopa Yr Elen trwy'r grib Ddwyreiniol a oedd yn darparu taith fynyddig dda yng nghanol golygfeydd godidog a thywydd braf. Ddydd Sul roedd y gwynt yn isel a'r graig yn sych er mwyn cerdded ar draws Crib Goch i Garnedd Ugain a gwnaethon ni orffen trwy llywio yn nol i pentref Llanberis. Cyfle gwych i Dylan a Trystan ddysgu ac ymarfer sgiliau newydd dros dir a thywydd amrywiol.


Sgiliau Mynydd Hydref Oriel