Teithiau Tywys yn Eryri

Mae gennym dewis o deithiau cerdded tywysedig ar gael o deithiau cerdded mynydd i deithiau cerdded teulu yn Eryri. Rydyn ni'n cadw ein grwpiau'n weddol fach i sicrhau bod chi'n cael brofiad cofiadwy ac o ansawdd. Mae ein holl arweinwyr yn gymwysedig, wedi'u hyswirio, yn wybodus ac yn brofiadol. Byddant nid yn unig yn eich tywys yn ddiogel yn ystod y dydd ond byddant hefyd yn rhoi cipolwg ar gymunedau lleol, hanes a diwylliant yr ardal yn ystod eich taith gerdded. Fel cwmni lleol wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, rydym yn arbenigo mewn arwain grwpiau yn Eryri ac yn arbennig ar yr Wyddfa, mynyddoedd y Carneddau a Glyderau yn ogystal â llwybrau pellter hir fel Llwybr Llechi Eryri. Gallwch edrych ar ein tudalen dyddiadau teithiau cerdded tywysedig i gael cyfeirnod cyflym. Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau am ddiwrnodau wedi'u teilwra neu breifat a byddem wrth ein bodd i chi cael eich antur nesaf gydag Anelu!

Dyma be oedd Alex o Lundain yn meddwl o'i taith ar Yr Wyddfa:

Yn amhrisiadwy, byddai'n argymell Stephen yn fawr a'r gwasanaeth y mae'n ei gynnig. Fe wnaethon ni archebu Stephen i ychwanegu rhywfaint o liw a manylion lleol wrth ddringo'r Wyddfa i ddathlu pen-blwydd Mam, ond roedd yr hyn a gawsom gymaint yn fwy na hynny. Mae Stephen nid yn unig yn addysgiadol, gyda llawer o straeon a ffeithiau am yr Wyddfa a'r ardal gyfagos, ond yr hyn nad oeddem wedi'i ystyried, oedd y byddai ei bresenoldeb yn caniatáu inni fwynhau'r ddringfa gymaint mwy oherwydd nad oedd yn rhaid i ni feddwl am gyflymder , y pellter, pryd i cael seibiant, unrhyw beth ... gallem gofleidio'r ddringfa gan wybod bod dwylo arbenigol yn gofalu amdanom. Peidiwch â dringo'r Wyddfa hebddo, mae'n werth pob ceiniog."

Yr Wyddfa teithiau tywys

Yr Wyddfa teithiau tywys

Mae yna nifer o lwybrau i fyny'r Wyddfa ac rydyn ni'n cynnig teithiau cerdded tywysedig ar gyfer pob un ohonyn nhw, yn yr haf a'r gaeaf....

Mwy

Carneddau teithiau tywys

Carneddau teithiau tywys

Profiad unigryw o fynyddoedd gwyllt y Carneddau gyda'n teithiau cerdded tywysedig....

Mwy

Teithiau tywys teulu yn Eryri

Teithiau tywys teulu yn Eryri

Mae ein teithiau cerdded teulu tywysedig yn Eryri wedi'u teilwra i bob grŵp fel bod eich profiad yn unigryw a'ch bod chi'n gadael gydag atgofion arbennig....

Mwy

Glyderau teithiau tywys

Glyderau teithiau tywys

Mae chymhlethdod y Glyderau yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r cerddwr rheolaidd....

Mwy

Llwybr Llechi Eryri teithiau tywys

Llwybr Llechi Eryri teithiau tywys

Mae ein teithiau cerdded tywysedig ar hyd y llwybr pellter hir hwn yn eich tywys trwy canol diwydiant chwareli llechi Gogledd Cymru....

Mwy

Dyddiadau Teithiau Tywys

Dyddiadau Teithiau Tywys

Mae ein dyddiadau agored ar gyfer teithiau cerdded tywysedig i'w gweld yma neu cysylltwch â ni i drefnu eich diwrnod preifat eich hun....

Mwy